Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Mehefin 2020
Amser: 12.30 - 13.38
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Bethan Garwood Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Jessica England |
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar Ddigartrefedd at gyfarfod dydd Mercher. Dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y byddai datganiad gan y Gweinidog Addysg yn cael ei ychwanegu at yr agenda brynhawn heddiw.
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Ymyriadau
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd, fel y digwyddodd yn nadl y llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn diwethaf, yn ymdrin ag ymyriadau yn wahanol i'r ffordd y byddai mewn cyfarfod arferol. Yn hytrach nag ymyriadau, cyn i'r siaradwr olaf ymateb i ddadl, bydd y Llywydd yn cymryd cyfraniadau un funud gan Aelodau sy'n ymateb i rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau a oedd eisoes wedi siarad.
Sut i Ymuno
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes, er y bydd hawl i'r holl 60 o Aelodau fod yn bresennol, bod angen i grwpiau ac aelodau annibynnol hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Siambr o hyd o bwy fydd yn bresennol. Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes annog Aelodau i gyflwyno eu ceisiadau i siarad erbyn diwedd dydd Mawrth os yn bosibl.
Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes hefyd sicrhau bod Aelodau yn ymwybodol fod angen iddynt ymuno â'r cyfarfod am 10.30 (neu hanner awr cyn yr amser dechrau os ydynt yn ymuno â sesiwn y prynhawn yn unig), ar yr hwyraf, er mwyn caniatáu amser ar gyfer gwiriadau TG. Bydd angen i Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl 10.50am (neu 10 munud cyn dechrau sesiwn y prynhawn) aros nes y bydd y cyfarfod wedi dechrau.
Egwyl
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal yr egwyl ar ôl y Cwestiynau Amserol, am tua 12.20.
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y 3 Wythnos Nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer y 3 wythnos nesaf a ddosbarthwyd fore heddiw:
Dydd Mercher 17 Mehefin 2020
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr gan Suzy Davies a chytunwyd i amserlennu'r cynnig heb ddyddiad trafod sy'n cynnig dirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafierws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020, dydd Mercher 10 Mehefin.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i barhau â'r arfer o amserlennu dim ond busnes yn ymwneud â Covid-19 am y tro, ac i hysbysu'r Pwyllgor o hynny. Cytunwyd hefyd y dylai'r Pwyllgor Deisebau ysgrifennu eto pe bai am amserlennu dadl yn ymwneud â deiseb yn ymwneud â Covid.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd mewn egwyddor i amserlennu dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos olaf cyn toriad yr haf.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Cytunodd y Pwyllgor ar derfyn amser cyflwyno adroddiad o ddydd Iau 12 Mehefin ar gyfer y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar gyfer Rheoliadau Rhif 4 a Rheoliadau Rhif 5. Cytunodd y Trefnydd i ystyried a allai unrhyw reoliadau yn y dyfodol gael eu hamserlennu i'w trafod yn gynt, a chaniatáu ychydig o amser i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur. Roedd Darren Millar a Siân Gwenllian o blaid ac roedd y Trefnydd a Caroline Jones yn erbyn, felly barn y mwyafrif oedd yn erbyn y cais i gyflwyno cynnig i sefydlu'r pwyllgor.
Roedd y Rheolwyr Busnes yn cytuno ei bod yn bwysig ystyried Covid-19 mewn ffordd drawsbynciol a chytunwyd i ofyn i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gwrdd yn fuan ar ddechrau'r hanner tymor hwn. Gwnaeth Caroline Jones gais i bob grŵp gael ei gynrychioli ar unrhyw bwyllgor sy'n cynnal gwaith craffu trawsbynciol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd ei bod yn bwysig craffu ar y gwaith adfer ar ôl Covid-19, a gaiff ei arwain gan y Cwnsler Cyffredinol. Gofynnwyd i'r swyddogion ystyried ble o fewn cylch gwaith presennol y pwyllgorau roedd y cyfrifoldeb hwn, ac i ymgynghori ar y mater â Fforwm y Cadeiryddion.
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer y pwyllgorau a chytuno arni, gan ganiatáu i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon gwrdd yn wythnosol.
Y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a ganlyn:
Y Bil Pysgodfeydd - Mae hwn wedi cael ei ddal yn ôl ymhellach am resymau technegol ac mae'n debygol o gael ei gyflwyno ar ôl toriad yr haf. Felly mae'r ddadl a oedd wedi cael ei hamserlennu dros dro ar gyfer 8 Gorffennaf wedi cael ei gohirio.
Y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) a'r Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) - Cafodd y Biliau hyn eu cyflwyno ar gyfer gwaith craffu gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond ni osodwyd terfynau amser ar gyfer adroddiadau gan fod y llywodraeth yn aros am wybodaeth ychwanegol am amserlenni'r Senedd. Gan fod y rhain yn parhau i fod yn ansicr, cynigiodd y llywodraeth bod y pwyllgorau yn cael terfyn amser o 2 Gorffennaf ar gyfer cyflwyno adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r terfyn amser arfaethedig.
Y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol - Mae'r llywodraeth yn ystyried a oes angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd ar gyfer y Bil hwn ac, os felly, mae'n rhagweld gosod y Memorandwm yr wythnos hon ac yn awgrymu cynnal dadl ar 10 Mehefin.
Cwestiynau ysgrifenedig
Cododd Rheolwyr Busnes y Gwrthbleidiau bryderon pellach ynghylch amseru a chynnwys atebion ysgrifenedig. Cytunodd y Trefnydd i drafod hyn gyda chyd-Weinidogion a chododd y mater fod Aelodau yn gofyn am wybodaeth a oedd eisoes ar gael yn gyhoeddus. Gofynnodd y Llywydd i'r swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth iddi ynghylch pryd roedd cwestiynau yn cael eu hateb.